Mae’r cyn-Aelod Seneddol dadleuol George Galloway yn bwriadu sefyll fel ymgeisydd yn etholiad senedd yr Alban ym mis Mai.

Dywedodd y byddai’n hapus i orffen ei yrfa gwleidyddol yn cynrychioli pobl Glasgow yn Senedd yr Alban os caiff ei ethol.

Fe fu’n Aelod Seneddol Llafur dros Glasgow rhwng 1987 a 2005, ond cafodd ei ddiarddel o’r Blaid Lafur yn 2003 ar ôl ymosodiadau ymfflamychol parhaus ganddo yn erbyn y cyn brif weinidog Tony Blair.

Yn etholiad cyffredinol 2005 cafodd ei ethol fel Aelod Seneddol y blaid asgell chwith Respect dros Bethnal Green a Bow, ond methodd â chael ei ailethol i’r senedd y llynedd.

Dywedodd y byddai’n sefyll o dan faner Respect ym mis Mai os bydd y blaid yn cynnig ymgeiswyr eraill, ond y byddai’n sefyll ar ei ben ei hun fel ymgeisydd annibynnol fel arall.

Dywed ei fod yn credu’n gryf mewn senedd gref i’r Alban ond ei fod yn erbyn annibyniaeth i’r wlad.

Llun: George Galloway (o wefan Wikipedia)