Ar ôl bod o dan bwysau i ymddiswyddo dros y dyddiau diwethaf, mae dyfodol Brian Cowen fel prif weinidog Iwerddon bellach yn nwylo aelodau seneddol ei blaid.
Fe fydd aelodau seneddol Fianna Fail yn pleidleisio mewn pleidlais gudd ar gynnig o ddiffyg hyder ynddo ddydd Mawrth.
Mae’r Taoiseach wedi cadarnhau mai ei fwriad yw parhau fel arweinydd Fianna Fail gan mai dyma fyddai orau er lles y wlad a’i blaid..
“Fel Taoiseach, rhaid imi barhau i ganolbwyntio’n llwyr ar gyflawni fy nyletswyddau i’r bobl,” meddai. “I Fianna Fail mae’r blaid yn bwysig, ond mae buddiannau’r wlad yn dod uwchlaw popeth.”
Wrth gydnabod bod pryderon wedi codi ynghylch ei arweinyddiaeth, dywedodd fod yn rhaid i’r cwestiwn hwnnw gael ei ddatrys ar frys.
O dan reolau arferol Fianna Fail, fyddai arweinydd ddim yn wynebu pleidlais ar ei arweinyddiaeth oni bai fod rhywun yn cyflwyno cynnig o ddiffyg hyder. Er mwyn datrys y mater yn gyflym, mae’r Taoiseach ei hun yn cyflwyno cynnig o’r fath.
Fe wnaeth pryderon ynghylch ei arweinyddiaeth ddwysáu’r wythnos ddiwethaf ar ôl iddo gael ei holi yn y senedd ddydd Mercher ynghylch ei gysylltiadau â chyn-bennaeth yr Anglo Irish Bank Sean FitzPatrick.
Llun: Brian Cowen, prif weinidog Iwerddon (o wefan Wikipedia)