Mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wedi dweud y bydd yn edrych ar ffyrdd o wella’r drefn o gyflwyno gorchmynion cymhwysedd deddfwriaethol – LCOs – os bydd pleidlais Na yn y refferendwm ar 3 Mawrth.
“Os bydd pleidlais Na, fe fyddwn ni’n edrych ar y ddeddfwriaeth i weld a oes modd cyflwyno LCOs yn fwy effeithlon o fewn y drefn bresennol,” meddai.
“Fe fyddwn ni’n edrych ar y ffordd yr ydym yn deddfu, ac ar ba agweddau y gellid eu gwella.”
Dywedodd y byddai’r angen am graffu manwl ar ddeddfau’r Cynulliad yn parhau os bydd pleidlais Ie yn ogystal:
“Fe fyddai angen i Dŷ’r Cyffredin edrych yn fanwl ar sut y byddai deddfau a gafodd eu llunio yng Nghymru’n effeithio ar weddill y Deyrnas Unedig,” meddai.
Ymgyrch Na
Gyda’r mudiad Gwir Gymru, sy’n galw am bleidlais Na yn y refferendwm, yn lansio eu hymgyrch dydd Mercher, mae amheuaeth o hyd a fydd y mudiad yn cael sêl bendith Comisiwn Etholiadol i gael ei ddynodi fel yr ymgyrch Na swyddogol.
Oni fydd hyn yn digwydd, ni fydd yr ymgyrch Ie dros Gymru’n cael ei dynodi fel ymgyrch swyddogol ychwaith.
Nid lle Ysgrifennydd Cymru yw ymyrryd mewn materion o’r fath, yn ôl Cheryl Gillan.
“Mae gan y Comisiwn Etholiadol feini prawf pendant ynghylch materion fel hyn, a nhw a neb arall a ddylai asesu a ddylai’r naill garfan neu’r llall gael yr hawl i arian trethdalwyr i ymladd eu hachos,” meddai.