Gyda phris petrol wedi codi i gymaint â £1.40 y litr mewn rhai rhannau o Gymru, mae Aelodau Seneddol yn pwyso ar y llywodraeth i weithredu ar unwaith i sefydlogi prisiau.
Mae arweinydd Seneddol Plaid Cymru, Elfyn Llwyd, yn rhybuddio bod teimladau cryf iawn ymysg y cyhoedd yn erbyn y codiadau ym mhrisiau petrol:
“Oni fydd rhyw arwydd fod y llywodraeth am wneud rhywbeth fe welwn ni’r un math o flocêds ag y gwelson ni ddeng mlynedd yn ôl yn dod â’r wlad i’w gliniau,” meddai.
Mae’n galw am system o reoli’r pris dros gyfnodau o chwe mis ar y tro, lle byddai’r dreth ar danwydd yn amrywio yn ôl pris olew, gan ostwng pan fyddai pris olew’n codi, a chodi pan fyddai’r pris yn mynd i lawr.
Mae’r Prif Weinidog David Cameron eisoes wedi dweud y byddai’n rhoi ystyriaeth ffafriol i syniadau o’r fath.
Ond dyw ystyried ddim yn ddigon, yn ôl Nia Griffith, Aelod Seneddol Llafur Llanelli:
“Rhaid i’r Prif Weinidog weithredu’n awr, neu fe fydd rhai cwmnïau cludiant yn fy etholaeth allan o fusnes erbyn mis Mawrth,” meddai.