Mae plaid asgell dde eithafol Ffrainc, y Ffrynt Cenedlaethol, wedi ethol merch y sylfaenydd Jean-Marie Le Pen, fel ei llywydd newydd.
Enillodd Marine Le Pen, 42 oed, ychydig dros ddau draean o’r bleidlais mewn confensiwn etholiadol gan y Ffrynt Cenedlaethol yn ninas Tours yng nghanolbarth Ffrainc.
Yr ymgeisydd arall oedd Bruno Gollnisch, dirprwy lywydd y blaid.
Fe wnaeth Jean-Marie Le Pen, a sylfaenodd y blaid yn 1972, ei araith ffarwel fel arweinydd ddoe gydag amddiffyniad huawl o’i safiad gwrth-fewnfudo a gwrth-Islam.
Caiff ei ferch Marine ei gweld fel rhywun sy’n llai ymfflamychol na’i thad.
Llun: Jean-Marie Le Pen (o wefan Wikipedia)