Mae’n ymddangos bod arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, bellach yn fwy poblogaidd na Nick Clegg ymysg pobl a bleidleisiodd dros y Democratiaid Rhyddfrydol yn etholiad cyffredinol y llynedd.

Daw hyn i’r amlwg mewn arolwg barn gan YouGov yn y Sunday Times heddiw sy’n dangos Llafur yn ennill tir.

Yn ôl yr arolwg, mae Llafur ar 43%, chwe phwynt ar y blaen i’r Torïaid ar 37%, gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol ymhell y tu ôl ar 9%.

Dim ond 30% o’r rhai a bleidleisiodd dros y Democratiaid Rhyddfrydol oedd yn credu bod Nick Clegg yn gwneud job dda fel arweinydd, o gymharu â 36% a oedd yn credu hynny am Ed Miliband.

Dim ond un o bob tri – 33% – o’r rhai a gefnogodd y Democratiaid Rhyddfrydol y llynedd a fyddai’n gwneud hynny eto petai etholiad yfory, tra byddai 41% yn pleidleisio dros Lafur ac 11% dros y Ceidwadwyr.

Wrth geisio apelio at gyn-Ddemocratiaid Rhyddfrydol, dywedodd Ed Miliband ei fod yn sylweddoli pa mor boenus oedd hi iddyn nhw weld eu harweinydd yn gwneud y ‘camgymeriad trychinebus’ o fynd i glymblaid â’r Ceidwadwyr.

“Dw i’n barod i gydweithredu â chi i ymladd agenda toriadau’r Llywodraeth,” meddai.

Cefnogaeth yr Arglwydd Owen

Cafodd arweinydd Llafur gefnogaeth annisgwyl arall heddiw – gan yr Arglwydd Owen, un o’r pedwar gwleidydd Llafur blaenllaw a adawodd eu plaid i ffurfio’r SDP 30 mlynedd yn ôl.

Dywedodd fod Ed Miliband wedi perfformio’n hynod o dda ers cael ei ethol yn arweinydd, ac ychwanegodd y byddai’n ystyried pleidleisio dros ei hen blaid.