Mae miloedd o bobl o Brydain wedi cyrraedd yn ôl adref yn ddiogel o helyntion treisgar Tunisia.

Mae’r mwyafrif llethol o’r rhai a oedd yn mwynhau gwyliau heulog yn y wlad fach yng ngogledd Affrica wedi cael eu hedfan gartref gan gwmnïau gwyliau dros y ddeuddydd ddiwethaf.

Ddoe, fe hedfanodd Thomson a First Choice â 1,437 o dwristiaid yn ôl i Brydain mewn saith o wahanol awyrennau, ac fe hedfanodd Thomas Cook 300 o deithwyr i Fanceinion. Roedd Thomas Cook eisoes wedi hedfan 1,500 arall yn ôl ddydd Gwener.

Credir bod tua mil o ymfudwyr o Brydain yn byw yn Tunisia – sy’n enwog am ei hinsawdd hyfryd a’i ansawdd bywyd – cyn helyntion gwleidyddol yr wythnos ddiwethaf gydag ugeiniau’n cael eu lladd, adeiladau’n cael eu rhoi ar dân, a lladradau o fusnesau.

Dywed y Swyddfa Dramor fod rhwng 150 a 200 o deithwyr annibynnol yn y wlad wedi cofrestru ar ei wefan i roi gwybod i’r awdurdodau Prydeinig lle’r oedden nhw.

Neithiwr, roedd rhai teithwyr yn cymharu’r gyrchfan boblogaidd i faes y gad mewn rhyfel.

“Roedd hi fel bod yng nghanol rhyfel gyda’r milwyr ymhobman a gwydr wedi torri o gwmpas y banciau a’r siopau mawr – ro’n i wedi dychryn,” meddai Angela Khalifa o Newhall, Swydd Derby, a gyrhaeddodd faes awyr Birmingham neithiwr.

Yn ystod yr helyntion fe wnaeth dros fil o garcharorion ddianc o garchar Mahdia a chafodd 42 o garcharorion eu lladd mewn tân mewn carchar ym Monastir.

Fe wnaeth Fouad Mebazaa dyngu i lw fel arlywydd dros dro newydd i’r wlad ddoe, wrth i’r cyn-arlywydd Zine El Abidine Ben Ali ffoi i Saudi Arabia.