Mae pob sir yng Nghymru ac eithrio Sir y Fflint a Wrecsam o dan rybudd llifogydd heddiw, wrth i ragor o law trwm gael ei ddarogan.

Mae disgwyl y bydd rhwng 15 a 25 mm o law yn disgyn yn y rhan fwyaf o Gymru yn ystod y dydd, ac fe all fod gymaint â 50mm mewn ardaloedd uchel.

Disgynnodd mwy o law yng Nghapel Curig ddoe – 114 mm – nag yn unlle arall ym Mhrydain.

Fe fu’n rhaid i Wasanaeth Tân Gogledd Cymru ymdrin â thri digwyddiad o lifogydd ‘bach’ ym Metws y Coed ddoe, ond nid oes adroddiadau o unrhyw ddigwyddiadau pellach dros nos.

Mae rhybudd llifogydd mwy difrifol mewn grym yn Cumbria, lle mae pryder y bydd lefelau uchel y dŵr yn afon Eden yn peryglu trefi Appleby a Chaeliwelydd.

Mae disgwyl i’r glaw trwm symud dros Brydain yn raddol tua’r dwyrain yn ystod y dydd.

Er mai rhybuddion llifogydd ‘melyn’ – y radd isaf – sydd mewn grym yng Nghymru, mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn pwyso ar bobl i fod yn wyliadwrus ac i gadw golwg ar ragolygon diweddaraf y tywydd.

Gellir galw Floodline 0845 988 1188 am yr wybodaeth ddiweddaraf.

Llun: Afon Conwy yn Llanrwst