Fe fu farw dyn 57 oed ar ôl i’w ganŵ droi drosodd yn afon Ogwen gerllaw Tal y Bont, Bangor ddoe.

Roedd yn un o ddau ddyn a oedd yn canŵio yn yr afon, ac er i ganŵ’r dyn arall hefyd droi drosodd, llwyddodd hwnnw i ddianc yn ddiogel i’r lan.

Dywed Heddlu’r Gogledd i’r gwasanaethau brys gael eu galw am 12.25, ac i’r canŵiwr gael ei godi o’r afon gan hofrennydd yr Awyrlu.

Aed ag ef i Ysbyty Gwynedd lle bu farw’n ddiweddarach.