Mae awdurdodau’r Almaen wedi gwahardd wyau, cywion ieir a phorc rhag cael eu gwerthu i’r cyhoedd, oherwydd pryderon fod 934 yn ychwaneg o ffermydd wedi eu gwenwyno gan ddiocsin, sef y cemegyn sy’n gallu achosi canser mewn pobol.

Mae’r gweinidog amaeth, Ilse Aigner, wedi cadarnhau heddiw fod awdurdodau talaith Saxony Isaf wedi darganfod y dosbarthwr wedi dosbarthu had wedi ei heintio â diocsin i 934 o ffermydd.

Mae Aigner wedi annog llywodraethwr y dalaith i gosbi’r rheiny fethodd â rheoli’r gwerthwr ffîd.

Fe dorrodd y sgandal yr wythnos ddiwetha’, pan ddaeth ymchwilwyr o hyd i lefelau uchel iawn o diocsin mewn wyau ac mewn rhai cywion ieir. Fe arweiniodd hynny at roi’r gorau’n syth i werthu’r had i filoedd o ffermydd, ac mae rhai gwledydd wedi rhwystro mewnforio cynnyrch o’r Almaen.