Mae Abertawe wedi cadw’r pwysau ar y timau ar frig tabl y Bencampwriaeth gyda buddugoliaeth gadarnhaol yn erbyn Crystal Palace yn Stadiwm Liberty.

Fe sgoriodd Darren Pratley y gôl agoriadol ddau funud cyn yr egwyl ar ôl canfod croesiad Scott Sinclair.

Fe gafodd y fuddugoliaeth ei sicrhau pan gafodd yr Elyrch eu gwobrwyo gyda dwy gic gosb.

Fe ddaeth y gic gosb gyntaf wedi deg munud o’r ail hanner gyda Scott Sinclair yn llwyddo i ganfod y rhwyd ar ôl i Nathan Dyer cael ei faglu gan David Wright.

Pum munud yn ddiweddarach fe sgoriodd Sinclair ei ail gic gosb o’r gêm ar ôl i ymosodwr Crystal Palace, Steffen Iverson lawio’r bêl yn y cwrt cosbi.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi’r Elyrch i’r ail safle yn y Bencampwriaeth ar hyn o bryd. Ond fe allai hynny newid pan fydd Caerdydd a Norwich yn wynebu ei gilydd ar Ffordd Carrow y prynhawn yma.