Roedd Toulouse yn rhy gryf i’r Dreigiau unwaith eto ar ôl i’r rhanbarth o Gymru golli 17-3 yn Stade Ernest Wallon.

Roedd gobeithion tîm Paul Turner i gyrraedd rownd wyth olaf y Cwpan Heineken eisoes wedi dod i ben.

Fe orffennodd yr hanner cyntaf gyda’r Dreigiau ond yn treulio 10-3 ar ôl i gapten y Ffrancwyr, Thierry Dusautoir gwthio dros y llinell gais am bwyntiau cyntaf y gêm.

Fe ddyblodd pencampwyr Ewrop eu mantais pan sgoriodd Vincent Clerc ail gais Toulouse yn dilyn gwaith da gan Clermont Poitrenaud.

Fe ymatebodd yr ymwelwyr gydag un gic gosb gan y maswr Jason Tovey i leihau mantais y Ffrancwyr i saith pwynt ar yr egwyl.

Ail hanner

Roedd y Dreigiau’n parhau i fod yn gystadleuol yn yr ail hanner, ond Toulouse cafodd pwyntiau cyntaf wedi’r egwyl.

Fe sgoriodd Dusautoir ei ail gais o’r gêm ar ôl ennill lein cyn i’r pac ei wthio dros y llinell gais.

Fe ymdrechodd y tîm cartref i ganfod pedwerydd cais i sicrhau pwynt bonws, ond roedd amddiffyn y Dreigiau wedi aros yn gadarn i’w hatal.