Mae pethau’n troi’n flêr yn Twnisia heddiw, wedi i wrthryfel poblogaidd orfodi’r Arlywydd i adael y wlad.
Mae dwsinau o garcharorion wedi eu lladd mewn tân mewn carchar; mae pobol yn dwyn pethau o siopau, ac mae gorsaf dreau wedi ei llosgi, tra bod swn gynnau i’w glywed trwy’r brifddinas.
Fe ddihangodd yr Arlywydd Zine El Abidine Ben Ali o’r wlad am Sawdi Arabia ddydd Gwener.
Heddiw, fe ddaeth cadarnhad ei fod wedi ildio ei swydd am byth.
Mae llefarydd ail dy’r senedd, Fouad Mebazaa, wedi cymryd yr awenau dros dro, ac mae ganddo ddau fis i drefnu etholiadau newydd.
Llygredd yn gwylltio pobol
Mae cyhuddiadau o lygredd ymysg gwleidyddion wedi creu dicter mawr ac ysbrydoli protestiadau. Ond er bod Ben Ali wedi gadael ei swydd, dyw hynny ddim i’w weld yn cael unrhyw effaith ar y sefyllfa.
Fe gafodd miloedd o dwristiaid eu symud allan o’r wlad sy’n adnabyddus am ei thraethau tywod a’i hadeiladau hynafol.
Heddiw, fe gadarnhaodd palas y brenin yn Sawdi Arabia fod y cyn-arlywydd a’i deulu wedi cyrraedd yno, a bod y dyrnas yn estyn croeso iddyn nhw.