Mae ymosodwr Caerdydd, Jay Bothroyd, wedi dweud ei fod yn canolbwyntio ar helpu Caerdydd i ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair er gwaethaf y sïon am ei ddyfodol.
Mae adroddiadau wedi awgrymu fod Newcastle Utd wedi dechrau cynnal trafodaethau gyda’r Adar Gleision tros arwyddo prif sgoriwr y clwb.
Ond mae Bothroyd wedi defnyddio ei gyfrif Twitter i ddweud ei fod yn gwbwl ymroddedig i achos Caerdydd.
“Rwy’n chwaraewr Caerdydd ac rwy’n canolbwyntio ar sicrhau dyrchafiad gyda Chaerdydd. Dyna’r cyfan rwy’n gwybod,” meddai Bothroyd.
“Mae Newcastle yn glwb gwych ond rwy’n hapus iawn gyda Chaerdydd.”
Pardew yn llygadu Bothroyd
Ond mae hyfforddwr newydd Newcastle, Alan Pardew yn credu y byddai’r ymosodwr o ddefnydd yn ail hanner y tymor.
Fe fydd cytundeb presennol Bothroyd yn dod i ben ar ddiwedd y tymor ac fe allai adael am ddim bryd hynny.
Ond fe allai’r Adar Glas gael swm o arian amdano pe baen nhw’n gadael i’r Sais adael y clwb yn ystod y ffenestr trosglwyddo bresennol.
Fe fydd yn rhaid i berchnogion Caerdydd benderfynu p’un ai ydyn nhw am gael arian am Bothroyd nawr, neu ei gadw am weddill y tymor a rhoi hwb i’w gobeithion o ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair.
Fe allai diddordeb Newcastle Utd yn Jay Bothroyd hefyd ysgogi timau eraill i wneud cais am yr ymosodwr.
Mae yna sôn bod Everton, Fulham, West Ham a Blackburn yn llygadu prif sgoriwr Caerdydd.