Fe ddywedodd cyfarwyddwr rygbi’r Gleision, Dai Young mai cyfres o gamgymeriadau bach oedd yn gyfrifol am fethiant y rhanbarth yn y Cwpan Heineken y tymor hwn ar ôl iddo wylio ei dîm yn curo Castres 14-9 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae’r Gleision wedi mwynhau llwyddiant sylweddol yng nghystadlaethau Ewrop dros y blynyddoedd diwethaf gan gyrraedd y rownd cyn derfynol y Cwpan Heineken yn 2009 ac ennill Cwpan Her Amlin llynedd.

Roedd gobeithion wedi bod yn uchel gyda’r Gleision ar gyfer eu hymgyrch Ewropeaidd diweddaraf.

Ond fe gollodd tîm Dai Young dair allan o’u pedair gêm gyntaf a oedd yn golygu mae’r gorau y gallen nhw obeithio amdano oedd gorffen yn ail yn y grŵp a cheisio sicrhau lle yn rownd wyth olaf Cwpan Her Amlin.

Pethau bach

Mae eu buddugoliaeth yn erbyn Castres neithiwr diolch i gais gan Leigh Halfpenny a tair cic gosb gan Dan Parks wedi cynnal y gobaith hynny, gyda gêm olaf y grŵp yn erbyn Caeredin yr wythnos nesaf.

“Dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf roedden ni’n ennill gemau agos yn Ewrop, ond nawr ry’ ni’n colli’r gemau hynny,” meddai Dai Young.

“Mae’r pethau bach oedd yn mynd yn iawn i ni llynedd wedi bod yn mynd yn ein herbyn eleni”

Mae Dai Young hefyd yn credu dylai’r Gleision fod wedi ennill o sgôr fwy yn erbyn y Ffrancwyr neithiwr.

“Pan roedden ni 11-3 ar y blaen, fe ddylen ni fod wedi gwthio ‘mlaen, ond fe fethwyd a sgorio mwy a fyddai wedi ein galluogi i ymlacio.”

Newidiadau

Mae Dai Young hefyd wedi cydnabod bod nifer o’i chwaraewyr yn dod at ddiwedd eu gyrfaoedd a bydd ‘na newidiadau o fewn y rhanbarth ar ddiwedd y tymor.

“Mae gennym ni garfan hen, ac mae’n rhaid i ni edrych i newid hynny. Ni fydd yn hawdd y tymor nesaf oherwydd Cwpan y Byd, felly fe fydd yn gynllun dwy flynedd.

“Ni fyddwn ni’n cael gwared a chwaraewyr ond fe fydd rhaid i ni ddechrau gwthio rhai o’r chwaraewyr ifanc mewn i’r tîm.”

Un chwaraewr ifanc sy’n perfformio’n dda i’r Gleision yw’r asgellwr, Leigh Halfpenny. Mae’r Cymro wedi sgorio dwy gais mewn dwy gêm ers dychwelyd o anaf i’w bigwrn.

“Mae’n chwaraewyr o safon ac yn llawn brwdfrydedd ar ôl fod allan gydag anaf. Mae’n newyddion da i Warren Gatland oherwydd mae’n gallu ennill gemau.”