Fe allai cefnwr Cymru, Lee Byrne, chwarae ei gêm gyntaf i’r Gweilch yn erbyn Gwyddelod Llundain yfory ar ôl gwella o anaf i’w fys bawd.
Mae’r Cymro wedi cael ei gynnwys ar y fainc ar gyfer y gêm grŵp Cwpan Heineken yn Stadiwm Liberty dydd Sul.
Fe fydd rhaid i’r Gweilch sicrhau buddugoliaeth er mwyn cadw’r pwysau ar Munster a Toulon sydd uwchben y rhanbarth o Gymru yn Grŵp 3 y gystadleuaeth.
Mae capten y Gweilch, Alun Wyn Jones yn dychwelyd i’r tîm yn yr ail reng.
Mae Adam Jones, Mike Phillips, Jonathan Thomas a Marty Holah hefyd yn ei ôl yn y pymtheg cyntaf.
Dim Shane
Fe fydd y Gweilch heb Shane Williams sy’n parhau i wella o anaf i’w ysgwydd, a’r canolwr Andrew Bishop sydd allan am wyth wythnos gydag anaf i’w bigwrn.
Fe fydd James Hook sy’n dechrau yn y canol yn chwarae ei 100fed gêm dros y rhanbarth yfory.
“Mae’n gyflawniad enfawr i mi yn bersonol. Dyma fy rhanbarth lleol ac mae chwarae 100 o gemau iddynt yn rhywbeth i fod yn falch iawn ohono,” meddai James Hook.
“Gennyf lawer o atgofion melys. Rwy’n credu mai un o’r rhai gorau oedd pan lwyddais i drosi cais Shane Williams yn erbyn Sale i ennill y gêm. Dyma oedd un o fy mhrofiadau cyntaf o rygbi rhanbarthol ar y lefel uchaf.”
“Rwyf wedi dweud fy mod i’n gadael ar ddiwedd y tymor, ond rwyf eisoes wedi dweud fy mod i am chwarae i’r Gweilch unwaith eto os fyddwn nhw fodlon fy nghymryd i pan fyddaf yn dychwelyd i Gymru.”
Carfan y Gweilch
15 Barry Davies 14 Nikki Walker 13 Tommy Bowe 12 James Hook 11 Richard Fussell 10 Dan Biggar 9 Mike Phillips.
1 Paul James 2 Richard Hibbard 3 Adam Jones 4 Ryan Jones 5 Alun Wyn Jones 6 Jerry Collins 7 Marty Holah 8 Jonathan Thomas.
Eilyddion- 16 Huw Bennett 17 Duncan Jones 18 Craig Mitchell 19 Ian Gough 20 Justin Tipuric 21 Jamie Nutbrown 22 Sonny Parker 23 Lee Byrne.