Fe fydd maswr Cymru, Stephen Jones yn chwarae ei gêm gyntaf i’r Scarlets yn erbyn Caerlŷr yn y Cwpan Heineken heddiw (dydd Sadwrn).
Mae Jones wedi gwella o anaf i’w ben-glin ac yn hawlio’r crys rhif deg gyda Rhys Priestland yn symud i safle’r cefnwr . Mae Tavis Knoyle yn dechrau’n fewnwr i dîm Nigel Davies.
Ond fe fydd y Scarlets heb y bachwr Ken Owens a’r asgellwr George North oherwydd anafiadau.
Mae Sean Lamont a Morgan Stoddard ar yr esgyll gyda Jon Davies a Regan King yn y canol.
Mae’r bachwr, Matthew Rees yn arwain y tîm o’r rheng flaen gydag Iestyn Thomas a Simon Gardiner yn bropiau.
Lou Reed a Vernon Cooper sy’n dechrau yn yr ail reng, gyda Rob McCusker, Josh Turnbull a David Lyons yn y rheng ôl.
“Pwysig”
Mae prif hyfforddwr y Scarlets, Nigel Davies, wedi dweud mai’r gêm yma yw’r pwysicaf mewn tair blynedd i’r rhanbarth.
Tri phwynt yn unig sy’n gwahanu’r Scarlets, Caerlŷr a Perpignan yng ngrŵp pump – a’r Scarlets sydd ar y brig ar hyn o bryd.
Bydd buddugoliaeth dros y Saeson ym Mharc y Scarlets yn gam mawr ymlaen tuag at sicrhau lle yn rownd nesaf y gystadleuaeth.
Fe fydd y Scarlets yn teithio i Ffrainc i wynebu Perpignan yng ngêm olaf y grŵp y penwythnos nesaf.
Carfan y Scarlets
Rhys Priestland, Morgan Stoddart, Regan King, Jon Davies, Sean Lamont, Stephen Jones, Tavis Knoyle,
Iestyn Thomas, Matthew Rees, Simon Gardiner, Lou Reed, Vernon Cooper, Rob McCusker, Josh Turnbull, David Lyons.
Eilyddion- Emyr Phillips, Rhodri Jones, Phil John, Jonny Fa’amatuainu, Ben Morgan, Richie Pugh, Martin Roberts, Gareth Maule.