Mae Morgannwg wedi cadarnhau bod Matthew Mott wedi cael ei benodi’n hyfforddwr newydd y clwb.

Mae’r gŵr o Awstralia wedi arwyddo cytundeb tair blynedd i hyfforddi tîm cyntaf y Dreigiau tan 2014.

Fe fydd Mott yn ymuno gyda Morgannwg ym mis Mawrth wrth New South Wales yn Awstralia lle mae’n brif hyfforddwr y tîm.

Mae New South Wales wedi mwynhau llwyddiant o dan ei arweiniad gan ennill cystadlaethau’r Ugain20 a’r Sheffield Shield.

Roedd Matthew Mott hefyd wedi bod yn hyfforddwr cynorthwyol tîm Ugain20 Awstralia a chwaraeodd yng Nghwpan y Byd llynedd.

“Wrth eu bodd”

Mae Cyfarwyddwr Criced Morgannwg, Colin Metson wedi dweud fod y clwb wrth eu bodd gyda’r penodiad.

“Mae wedi mwynhau llwyddiant cynt ac rwy’n edrych ‘mlaen i weithio gydag ef pan fydd yn dychwelyd ym mis Mawrth,” meddai Colin Metson.

“Mae ein capten newydd, Alviro Petersen eisoes wedi siarad gyda Matthew ac mae’n edrych ‘mlaen i gydweithio gydag ef i geisio sicrhau llwyddiant i’r tîm.”

Ar yr amser iawn…

Fe ddywedodd Matthew Mott ei fod ef yn barod am her newydd yn ei yrfa hyfforddi.

“Ar ôl treulio chwe blynedd yn hyfforddi yn Awstralia, rwy’n credu ei fod yr amser cywir i symud ‘mlaen yn fy ngyrfa hyfforddi,” meddai Matthew Mott.

“Rwy’n ymwybodol bod gan y clwb traddodiad balch ac mae ganddynt garfan dalentog. Rwy’n edrych ‘mlaen i weithio gyda’r chwaraewyr a’r hyfforddwyr dros y misoedd a blynyddoedd i ddod.”