Mae corff hawliau dynol India wedi mynnu bod dau heddwas yn talu iawndal i fegerwr anabl, wedi iddyn nhw ei daflu i domen sbwriel yn 2009.

Mae Comisiwn Hawliau Dynol Cenedlaethol y wlad wedi dweud fod yn rhaid i’r ddau swyddog yn rhanbarth orllewinol Goa dalu £630 i Shelton Messier, a gafodd ei daflu i’r domen ar gyrion y ddinas Panaji ar noson lawog ym Mehefin 2009.

Fe gafodd Messier, sy’n methu defnyddio un goes, ei achub gan gyfreithiwr a oedd yn digwydd pasio’r domen. Fe glywodd rywun yn griddfan, a sylwi mai Shelton Messier oedd yno.

Yn ddiweddarach, fe gyflwynodd Messier gwyn, gyda chymorth y cyfreithiwr, yn erbyn yr heddweision.