Mae stampîd o bererindion yn dychwelyd o un o wyliau mwya’ poblogaidd yr Hindwaid, wedi lladd o leia’ 102 o bobol ac anafu 44 arall.

Mae’r rheiny sydd wedi eu hanafu wedi cael eu cario i’r ysbyty, yn ôl llefarydd ar ran yr heddlu. Mae rhai o’r pererinion mewn cyflwr difrifol iawn.

“R’yn ni wedi dod o hyd i 102 o gyrff,” meddai’r heddwad wedyn. “Mae’r gwaith achub bron iawn drosodd.”

Fe gafodd yr ardal ei llenwi gan bererinion, hyd at 50 milltir oddi wrth y deml lle’r oedd y dorf wedi bod yn addoli.

Mae’r wyl bob-dwy-flynedd yn denu miliynau o addolwyr i deml ynysig i’r duw Hindw, Ayyappan. Roedd seremoni dydd Gwener yn nodi diwedd yr wyl, ac roedd tua 150,000 wedi cerdded llwybr cyfyng i lawr o’r fforest.

Mae miliynau o bobol yn mynd ar y bererindod bob blwyddyn, ac mae bron i 2,000 o heddweision yn cael eu cyflogi i warchod y deml.