Fe fydd myfyrwyr sydd eisiau teithio i Giwba, yn ogystal ag eglwysi sy’n bwriadu mynd yno am resymau crefyddol, yn cael gwneud hynny, ar ôl i Arlywydd America, Barack Obama, lacio cyfyngiadau teithio.

Fe fydd y cynllun hefyd yn caniatau i unrhyw Americanwr anfon cymaint â $500 bob tri mis i ddinasyddion Ciwba sydd ddim yn rhan o drefn Castro ac sydd ddim yn aelodau o’r Blaid Gomiwnyddol.

Hefyd, fe fydd mwy o feysydd awyr yn cael cynnig hediadau i ac o’r wlad.

Ar hyn o bryd, dim ond tri maes awyr – ym Miami, Los Angeles a Dinas Efrog Newydd – sy’n cael cynnig hediadau i Giwba.