Mae llefarwyr ar ran llywodraeth Pacistan yn cadarnhau fod saethwyr yn ne-orllewin y wlad wedi targedu 14 o danceri yn cario tanwydd i filwyr yr Unol Daleithiau a NATO yn Affganistan.
Fe gafodd gyrrwr hefyd ei anafu yn ystod ymosodiad heddiw.
Mae ymgyrchwyr milwriaethus a throseddwyr ym Mhacistan yn aml yn ymosod ar lorïau sy’n cario offer ac adnoddau i filwyr America a NATO.
Mae’r adnoddau fel arfer yn cyrraedd porthladd Karachi yn ne Pacistan, ac yna’n cael eu cario dros y tir i Affganistan, gan groesi dwy ffin fawr.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad diweddara’ yn ardal Dera Murad Jamali, yn rhanbarth Baluchistan. Roedd y tanceri wedi eu parcio ger bwyty ar fin y ffordd pan ymosododd wyth o saethwyr arnyn nhw.