Mae China wedi cyhoeddi y bydd tua 230 miliwn o bobol yn teithio am adre’ yn ystod tymor gwyliau Blwyddyn Newydd y Lleuad eleni. Dyma fydd y mudo mwyaf fydd yn digwydd trwy’r byd eleni.
Yn ôl Wang Zhiguo, dirprwy weinidog y rheilffyrdd yn y wlad, fe fydd cynnydd o 12.5% yn y nifer o bobol a fu’n teithio tuag adre’ y llynedd, er mwyn treulio’r gwyliau gyda’u teuluoedd a’u ffrindiau.
Mae cyfnod gwyliau swyddogol China yn dechrau ddydd Mercher, ac yn para tan Chwefror 27, gyda Blwyddyn Newydd y Lleuad yn syrthio ar Chwefror 3.
Trwy gydol y cyfnod, fe fydd gweithwyr a myfyrwyr yn croesi’r wlad anferth er mwyn trio cyrraedd gartre’. I rai, dyma eu hunig ymweliad â’u teulu yn ystod y flwyddyn.