Mae papur newydd y Guardian wedi datgelu gweithgareddau heddwas cudd a fu’n gweithio o fewn i fudiad anarchaidd o Gaerdydd, gan fwydo gwybodaeth amdanyn nhw i’r awdurdodau yr un pryd.

Fe fu’r heddwas yn gweithio yng Nghaerdydd am bedair blynedd, yn ôl y papur, cyn honni ei fod yn gadael y brifddinas er mwyn mynd i weithio fel garddwr ar ynys Corfu.

Mae cyn-gariad iddo, a oedd yn aelod o’r grwp anarchaidd, yn dweud ei bod yn teimlo iddi gael ei bradychu gan yr heddwas 44 mlwydd oed.

“O’n i ddim yn gwneud dim byd o’i le,” meddai’r ferch 29 oed. “Do’n i ddim yn torri’r gyfraith o gwbwl. Felly, mae meddwl ei fod e wedi dweud cymaint o gelwydd a dod i mewn i’n bywydau ni trwy dwyll, yn frad anferth, anferth.”

Dod i ganol pethau

Fe ddaeth “Swyddog B”, fel y mae’n cael ei adnabod er mwyn gwarchod ei identiti, i Gaerdydd yn 2005, gan ddod yn aelod allweddol o’r rhwydwaith Anarchaeth yn y ddinas.

Yn ôl ei gyn-gariad, roedd ei fflat yn hynod o wag, heb luniau o ffrindiau na theulu, a doedd e byth yn trafod ei orffennol.

“Roedd e’n dweud na alle fe ddweud wrth ei ffrindiau na’i deulu amdanon ni oherwydd y gwahaniaeth oedran,” meddai ei gyn-gariad, gan gyfeirio at y 15 mlynedd oedd rhyngddyn nhw.

“Pe bai e wedi bod yn unrhyw un arall, fe fydden i wedi amau’n syth… ond roedd e wedi bod yn ffrind mor dda am dair blynedd cyn i ni fynd i berthynas, wnes i ddim meddwl nad oedd e’n ddyn cwbwl onest.”