Bron i hanner canrif union ers darlith ‘Tynged yr Iaith’ Saunders Lewis, bydd Cymdeithas yr Iaith heddiw yn rhannu ei gweledigaeth newydd ar gyfer gyfer sicrhau cymunedau Cymraeg cynaliadwy.

Fe fyddan nhw’n cyflwyno ac yn darlledu araith newydd, ‘Tynged yr Iaith 2’, ym Mlaenau Ffestiniog.

“Ers darlledu darlith Saunders Lewis, mae Cymru a’n cymunedau wedi newid, dyma ni felly yn mynd ati i gyhoeddi gweledigaeth newydd ar gyfer ein cymunedau,” meddai Menna Machreth, llefarydd grŵp digidol y Gymdeithas.

Am y tro cyntaf erioed, fe fydd y digwyddiad gan y Gymdeithas yn cael ei darlledu’n fyw yn fyd-eang ar y we er mwyn “cyrraedd at gymaint o aelodau â phosibl”.

Yn ôl Menna Machreth “dim ond y dechrau” yw hyn ac mae’n gobeithio y bydd aelodau’r Gymdeithas yn cael eu hysbrydoli i “fod o ddifrif am ddiogelu ein cymunedau Cymraeg.”

Her

“Mae’n amser i edrych o’r newydd ar weledigaeth Tynged yr Iaith. Deffrodd Saunders Lewis bobl Cymru i’r peryglon oedd yn wynebu’r Gymraeg; bwriad Cymdeithas yr Iaith yw i gyflwyno her i’n haelodau a phobl Cymru i ddeffro’u cymunedau,” meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Mae’n debyg mai un o’r syniadau fydd yn codi yn y cyfarfod fydd yr angen am Fesur Cymunedau Cynaliadwy er mwyn galluogi pobl ifanc i aros yn eu cymunedau.

Bydd rhai o aelodau’r mudiad yn darllen yr araith arbennig a bydd plant ysgol y parc, ysgol mewn cymuned Cymraeg sydd o dan fygythiad, yn canu yn ystod y digwyddiad.

Blas o’r araith

“Drwy ymgyrchu dyfal a gwneud safiad dros y Gymraeg bu nifer o enillion.

“Mae’r enillion a fu yn sicrhau y bydd y Gymraeg yn byw ar ryw ffurf. Ond pa fath o ddyfodol sydd i’n hiaith?

“Rydym ymhell iawn o sicrhau dyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol lawn y gellir ei defnyddio ym mhob agwedd ar fywyd. Ai ar ffurf symbolaidd yn unig y bydd ein hiaith yn byw? Ai diwylliant i leiafrif o bobl?

“A fydd ein yr iaith Gymraeg yn addurn tocenistig a fydd yn rhoi swydd i garfan fach o bobl? Iaith y dosbarth…yn hytrach na iaith sy’n rhan o adfywiad cymuned gyfan?”