Mae disgyblion Ysgol Uwchradd Caerdydd wrthi’n paratoi at Gynhadledd Hanes ac addysgu flynyddol sy’n dathlu ieuenctid Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LGBT) Cymru Gyfan y mis nesaf.
Bydd Cyngor Caerdydd a’i phartneriaid yn cynnal y digwyddiad 7 Chwefror er mwyn hyrwyddo cydraddoldeb i bobl ifanc, amlygu a rhannu arferion da a chefnogi’r agenda cynhwysiant mewn ysgolion.
Fe ddywedodd Marc Lewis, Athro Drama yn Ysgol Uwchradd Caerdydd wrth Golwg360 fod disgyblion yr ysgol yn eu cyflwyniadau eleni am fod yn “canolbwyntio ar y pethau da” am fod yn hoyw a bod “cefnogaeth” ar gael i bobol hoyw.
Fe fydd Marc Lewis hefyd yn annerch y gynhadledd gan son am ‘sut mae’r ysgol gyfan wedi symud ymlaen’ – ers iddo fod yn gweithio ar drawsnewid agweddau at homoffobia yn yr ysgol ers tair blynedd.
‘Iaith homoffobaidd’
Mae disgyblion weithiau’n defnyddio iaith homoffobaidd “heb feddwl” ambell dro, meddai Marc Lewis, ac mae’n awyddus i newid hyn.
“Dipyn o hyder a grym oedd angen i symud ymlaen. Mae’r sefyllfa 100% yn well nawr… Dydw i ddim yn honni mod i wedi cael gwared ohono- ond mae o wedi gwella gymaint.”
Fe ddywedodd fod pob blwyddyn yn yr ysgol wedi bod yn “gweithio ar brosiectau gwahanol a grwpiau cydraddoldeb” wedi’u sefydlu yn y blynyddoedd diwethaf i lledu ymwybyddiaeth mewn gwahanol feysydd.
“Tua thair blynedd yn ôl, fe ddechreuodd yr ysgol ddangos pobol enwog hoyw sy’n llwyddiannus i ddisgyblion. Fe wnaethon ni hefyd adrodd hanes Darren Steele,” meddai cyn egluro fod Steele – disgybl o Staffordshire wedi ei ladd ei hun ar ôl bwlio homoffobaidd gan ddisgyblion eraill.
“Fe wnaethon ni ddechrau taclo’r iaith yn erbyn pobl hoyw a newid rheolau’r ysgol mewn dyddiaduron gwaith cartref i gynnwys nid yn unig rheolau am hiliaeth ond am homoffobia hefyd,” meddai Marc Lewis, cyn dweud nad “hybu rhywioldeb” oedd ei fwriad ond yn hytrach i “atal homoffobia”.
Cyfraniadau
Yn y gynhadledd eleni, fe ddywedodd y bydd un plentyn o’r ysgol yn son am sut mae YouTube wedi helpu a chefnogi pobl hoyw. Yna, bydd grŵp o blant yn rhoi gwers maen nhw wedi’i ysgrifennu i bobl yn y gynhadledd.
“Dw i fod i siarad am sut mae ysgol gyfan wedi symud ymlaen a delio gyda homoffobia,” meddai Marc Lewis.
Mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu ar y cyd â Chymru Ddiogelach, Canolfan Ragoriaeth LGBT, Caerdydd yn Erbyn Bwlio a phroject Ymchwil Troseddau Casineb Cymru gyfan.