Gofynnodd athro allai ymuno gyda merch ysgol 13 oed mewn bath yn ystod trafodaethau cudd ar safle rhwydweithio cymdeithasol, clywodd gwrandawiad disgyblaethol heddiw.
Awgrymodd yr athro technoleg Nathan John wrth ferch arall y gallai dynnu lluniau ohoni, cyn ei rhybuddio na ddylai ddweud wrth neb arall.
Daeth ei negeseuon cudd at y merched ifanc i’r amlwg pan gwynodd un bod ganddi “ormod o gywilydd” i fynd i’w ddosbarthiadau.
Roedd Nathan John yn dysgu yn Ysgol Uwchradd Llanrhymni yng Nghaerdydd, pan ddaeth y cwynion i’r amlwg yn Ebrill 2008.
Clywodd Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru heddiw bod Nathan John bellach wedi ymddiswyddo ac na fyddai’n bresennol yn y gwrandawiad.
Ni fydd yn herio’r honiadau ei fod wedi cysylltu â disgyblion mewn modd amhriodol dros y rhyngrwyd a bod ei ymddygiad yn amhroffesiynol.
Bath
Yn ystod un drafodaeth ar wefan Bebo, fe wnaeth Nathan John gyfres o sylwadau amhriodol wrth drafod gyda merch ysgol, clywodd y cyngor.
Gorffennodd hi’r drafodaeth gan ysgrifennu: “Mae’n rhaid i fi fynd nawr i gael bath.”
“Alla’i ddod?” gofynnodd yr athro.
“Na,” oedd yr ateb.
“Fe welaf i chdi yn yr ysgol yfory a rhoi smac pen ôl i ti,” meddai, cyn son am ei “phen ôl neis”.
“Rydw i newydd gael sawna ac rydw i wedi crebachu i gyd,” meddai wedyn.
Mae hefyd wedi ei gyhuddo o gysylltu â merch arall, 13 oed, gan ddefnyddio MSN tra’r oedd yn sâl o’r ysgol.
Clywodd y gwrandawiad fod y ferch adref pan dderbyniodd hi gais ar-lein gan Nathan John i ymuno â’i rhwydwaith ffrindiau.
Derbyniodd hi’r cais, a gofynnodd Nathan John pam nad oedd ganddi lun proffil. Ymatebodd y ferch nad oedd hi’n “ddigon hyderus”.
Cynigiodd Nathan John dynnu llun ohoni, ond na ddylai ddweud wrth neb.