Mae’r Gweinidog Iechyd, Edwina Hart, wedi cyhoeddi y bydd offer digidol modern newydd yn cael ei defnyddio i sgrinio menywod yng Nghymru ar gyfer canser y fron.

Bydd y cynllun £10m, a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn gosod offer digidol newydd yn lle peiriannau analog yn unedau symudol Bron Brawf Cymru a’r canolfannau asesu bron.

Mae Bron Brawf Cymru yn cynnig gwasanaeth sgrinio’r fron i’r holl fenywod yng Nghymru sydd rhwng 50 a 70 oed, a hynny bob tair blynedd. Bob blwyddyn, mae dros 100,000 o fenywod Cymru yn cael eu sgrinio ar gyfer canser y fron.

Dywedodd y llywodraeth y bydd yr offer newydd yn sicrhau bod delweddau yn cael eu prosesu a’u dadansoddi yn gynt, a hefyd bydd yn haws cymharu’r delweddau â phrofion blaenorol.

Bydd llai o fenywod yn gorfod dod yn ôl i gael profion, gan y bydd y radiograffwyr yn gallu gweld os yw’r delweddau o ansawdd digon da i allu gwneud penderfyniad clinigol, medden nhw.

Os gwelir bod arwyddion o abnormaledd, bydd y fenyw yn cael ei hanfon i un o’r canolfannau i gael asesiad pellach.
“Mae’n hanfodol buddsoddi mewn atal canser a’i ganfod yn gynnar er mwyn gwella’r canlyniadau i gleifion,” meddai Edwina Hart.

“Y llynedd, rhoddodd Llywodraeth y Cynulliad £1m tuag at gael unedau symudol newydd er mwyn cael unedau addas ar gyfer yr offer newydd hwn.

“Hefyd, agorais yn swyddogol y ganolfan ragoriaeth newydd ar gyfer gwasanaethau gofal y fron yn Ysbyty’r Tywysog Philip, Llanelli. Cafodd y ganolfan gymorth ariannol gwerth dros £6m oddi wrth Lywodraeth y Cynulliad.

“Bydd y buddsoddiad a’r offer newydd hwn yn helpu i ymateb i’r galw cynyddol sydd ar y GIG.

”Mae canfod a chael diagnosis o ganser yn gynnar yn sicrhau canlyniadau gwell i gleifion ac felly mae’n hollbwysig bod pob menyw yn mynd i’w hapwyntiad sgrinio.”

Bron Brawf Cymru sydd â’r gyfradd canfod canser uchaf yn y Deyrnas Unedig.