Mae disgwyl i Ryan Giggs gyfarfod gyda hyfforddwr Cymru, Gary Speed, er mwyn trafod sut rôl alla ei chwarae gyda’r tîm rhyngwladol.

Dywedodd chwaraewr Man Utd ddoe ei fod yn barod i helpu Speed a’r tîm rhyngwladol, ond ychwanegodd nad oedd yn bwriadu dychwelyd i chwarae dros Gymru.

“Dw i ddim yn credu y byddai’n mynd ‘nôl am gwpl o gemau. Fydda i ddim chwarae dros Gymru eto,” meddai Giggs.

“Fe benderfynais i ymddeol o’r lefel ryngwladol er mwyn ymestyn fy ngyrfa a chael y cyfle i orffwys yn ystod y tymor.”

Ond cadarnhaodd y byddai’n trafod gyda Speed sut allai fod o gymorth i’r tîm rhyngwladol.

Dywedodd Ryan Giggs nad oedd o wedi cael cynnig i fod yn rhan o dîm cynorthwyol Gary Speed, ond y gallai hynny newid.

“Rydw i wedi dweud erioed fy mod i eisiau hyfforddi neu reoli Cymru, a bod yn rhan o dîm sy’n cyrraedd un o’r prif bencampwriaethau.”