Mae rheolwr Arsenal, Arsene Wenger, wedi dweud na fydd Aaron Ramsey yn mynd ar fenthyg i glwb arall yn ystod y ffenestr trosglwyddo.
Treuliodd y Cymro gyfnod byr ar fenthyg yn Nottingham Forest cyn y Nadolig er mwyn gwella ei ffitrwydd ar ôl iddo dorri ei goes yn erbyn Stoke ym mis Chwefror y llynedd.
Fe geisiodd Caerdydd arwyddo Ramsey ar gytundeb benthyg, ond fe benderfynodd y chwaraewr canol cae ymuno gyda thîm Billy Davies yn lle.
Mae’r Cymro wedi dychwelyd i Arsenal erbyn hyn, ond dyw e dal heb ddechrau gêm i’r tîm cyntaf ers cael ei anafu yn erbyn Stoke y tymor diwethaf.
Roedd sôn y byddai Ramsey yn ymuno â Blackpool ar gytundeb benthyg tan ddiwedd y tymor.
Ond mae rheolwr Arsenal wedi dweud na fydd neb yn gadael y clwb yn ystod mis Ionawr wrth i’r Gunners baratoi ar gyfer cyfres o gemau dros yr wythnosau nesaf.
“Rydw i am i bawb fod yma ac ar gael. Mae â ni gymaint o gemau i’w chwarae,” meddai Arsene Wenger.