Mae ffermwr yn China wedi ei ddedfrydu i oes yn y carchar ar ôl osgoi talu gwerth 3.5 miliwn yuan (£335,000) mewn tollau am ddefnyddio’r draffordd.

Roedd Shi Jianfeng wedi osgoi talu tollau rhagor nag 2,300 o weithiau rhwng Mai 2008 ac Ionawr 2009 drwy osod platiau milwrol ffug ar ei gerbydau.

Roedd yn berchennog busnes oedd yn cludo graean o le i le.

Mae’r ddedfryd wedi achosi cynnwrf yn China, wrth i bapurau newydd a negeseuon ar-lein ddadlau bod pobol wedi treulio cyfnodau byrrach yn y carchar am dreisio a lladd.

Fe fydd Shi Jianfeng hefyd yn gorfod talu 2 filiwn yuan (£200,000) yn ôl, meddai’r llys yn rhanbarth Henan yng nghanolbarth y wlad.