Mae adroddiadau bod Mark Thompson, cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, wedi galw am doriadau o 20% i ran helaeth o’r gorfforaeth.
Roedd Mark Thompson wedi annerch gweithwyr y BBC ar rwydwaith teledu mewnol y gorfforaeth ddoe, gan ddweud ei fod o eisiau gweld toriadau o 20% ar yr ochor creu a darlledu rhaglenni.
Mae gwefan y BBC yn wynebu toriadau o hyd at 25% yn ei gyllideb.
Daeth i’r amlwg y byddai’n rhaid i’r BBC wneud toriadau o 16% ar ôl gorfod ysgwyddo baich World Service yn ogystal ag S4C, a rhewi’r drwydded deledu am chwe blynedd.
Ond fe fyddai toriadau 20% yn waeth nag oedd gweithwyr wedi’i ddisgwyl ac yn golygu torri tua 3,000 o swyddi, yn ôl papur newydd y Daily Telegraph. Mae’r BBC yn cyflogi dros 17,000 o weithwyr ar hyn o bryd.
Dywedodd Undeb y Newyddiadurwyr y bydden nhw’n “gwrthwynebu” unrhyw doriadau o fewn y BBC, ac yn streicio oes oedd rhaid.