Fe fydd llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Gareth Vaughan, yn rhoi’r gorau iddi yn yr haf ar ôl wyth mlynedd wrth y llyw.

Dywedodd Gareth Vaughan, 69, o Ddolfor, y Drenewydd, Powys, y byddai’n parhau’n weithgar â’r undeb.

Fe fydd yn rhoi’r gorau i’w swydd yng nghyfarfod cyffredinol yr undeb ym mis Mehefin. Mae wedi bod yn aelod o’r undeb ers 25 mlynedd.

Mae Gareth Vaughan yn ffermio defaid a gwartheg ar fferm Cwmyrhiwdre â’i wraig Audrey, a 12 mlynedd yn ôl ymunodd ei ferch Catherine a’i fab yng nghyfraith Brian â’r busnes.

Cafodd ei eni yn Llanidloes yn 1941, a mynychu Ysgol Gynradd Manledd ac Ysgol Uwchradd Llanidloes.

Roedd yn gadeirydd cangen y Drenewydd Undeb Amaethwyr Cymry yn 1988-89 a chadeirydd Sir Drefaldwyn rhwng 1991-1993.

Cafodd yn ethol yn aelod pwyllgor cyllid gogledd Cymru Undeb Amaethwyr Cymru yn 1998 cyn cael ei ethol yn is-lywydd yn 2000, dirprwy lywydd yn 2002 a llywydd yn 2003.

Cafodd wybod fis diwethaf y bydd yn cael ei wneud yn Aelod o’r Ymerodraeth Brydeinig gan y Frenhines.