Mae prifysgolion Cymru yn cael bron i £80m yn llai bob blwyddyn gan y llywodraeth o’i gymharu â phrifysgolion Lloegr, cyhoeddwyd heddiw.

Heddiw rhyddhaodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru adroddiad oedd yn dangos bod Llywodraeth y Cynulliad wedi gwario £900 yn llai ar bob myfyriwr nag y gwnaeth Lloegr yn 2007/08.

Dywedodd y cyngor y byddai Llywodraeth y Cynulliad wedi gorfod gwario £69m arall yn 2007/08 er mwyn cau’r bwlch â Lloegr.

Byddai’r llywodraeth wedi gorfod gwario £78m arall er mwyn cau’r bwlch yn 2008/09, medden nhw.

‘Cau’r bwlch’

Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad fod disgwyl i’r bwlch gau dros y blynyddoedd nesaf – oherwydd y bydd Lloegr yn gwario llai.

“Mae disgwyl i gyllideb dysgu Lloegr syrthio, ac felly fe fydd y blwch mewn gwario cyhoeddus yn cau,” meddai llefarydd.

Ym mis Tachwedd cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, y byddai’r llywodraeth yn talu ffioedd dysgu myfyrwyr o Gymru oedd yn astudio yma neu yn Lloegr.

Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad y bydd y polisi hwnnw ac eraill yn golygu bod Cymru yn gwario cymaint ar fyfyrwyr a Lloegr yn y dyfodol.