Mae’r Blaid Lafur wedi sicrhau buddugoliaeth gyffyrddus yn isetholiad Oldham East a Saddleworth gan roi rhagor o bwysau ar arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg.
Datgelwyd yn oriau mân y bore mai Debbie Abrahams oedd Aelod Seneddol newydd yr etholaeth, ar ôl iddi ennill o 3,558 pleidlais – mwyafrif uwch nag y sicrhaodd y blaid Lafur yn etholiad 1997.
Daeth ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Elwyn Watkins, sydd o dras Gymreig, yn ail.
Dywedodd Nick Clegg bod methu a chipio’r sedd am yr ail waith yn ymateb i doriadau ariannol poenus y Llywodraeth.
Erbyn hanner nos daeth hi’n amlwg bod y Blaid Lafur wedi sicrhau’r fuddugoliaeth, ac roedd y Democratiaid Rhyddfrydol yn proffwydo y byddai Elwyn Watkins yn dod yn “ail parchus”.
Roedd awgrymiadau bod y Prif Weinidog, David Cameron, wedi mynd ati’n bwrpasol i gynnal ymgyrch ddi-hid yn y gobaith y byddai’r Dems Rhydd yn mynd a hi.
Galwyd yr isetholiad ar ôl i lys barn benderfynu nad oedd yr etholiad fis Mai diwethaf yn cyfri. Roedd ymgeisydd buddugol y Blaid Lafur, Phil Woolas, wedi dweud celwydd am Elwyn Watkins.
Roedd disgwyl i’r etholwyr gosbi’r Blaid Lafur am hynny, ond mae’r Dems Rhydd wedi dioddef cwymp sylweddol yn eu cefnogaeth ar draws y wlad ers troi cefn ar eu haddewid i wrthsefyll unrhyw gynnydd mewn ffioedd dysgu.
Ar ôl cipio’r fuddugoliaeth yn Oldham East a Saddleworth dywedodd Debbie Abrahams bod y pleidleiswyr wedi siarad ar ran y wlad gyfan.
“Maen nhw wedi anfon neges glir i’r rheini sy’n gwylio o Stryd Downing,” meddai. “Mr Cameron, Mr Clegg, o hyn ymlaen bydd rhaid i chi ddechrau gwrando.”