Mae’r Gleision wedi penderfynu peidio apelio yn erbyn gwaharddiad 12 wythnos eu mewnwr, Richie Rees.

Fe gafod Rees ei wahardd am 12 wythnos gan Gwpan Rygbi Ewrop yn dilyn gwrandawiad disgyblu yn Nulyn ar 6 Ionawr.

Roedd y Cymro wedi cael ei gyhuddo o roi ei fysedd yn llygad bachwr Northampton, Dylan Hartley yn ystod gêm Cwpan Heineken ar 19 Rhagfyr.

Fe blediodd Richie Rees yn ddieuog i’r cyhuddiad ar sail bod unrhyw gyffyrddiad yn anfwriadol.

Ond fe benderfynodd y swyddog disgyblu annibynnol, Pat Barniscale bod y cyffyrddiad gyda’r llygad yn “ddi-hid ac yn anfwriadol.”

“Ar ôl cael cyngor cyfreithiol gyda chefnogaeth y Gleision ac Undeb Rygbi Cymru, ry’ ni wedi penderfynu peidio apelio yn erbyn y penderfyniad,” meddai Richie Rees.

“Yn naturiol, rwy’n siomedig fy mod i wedi cael fy ngwahardd am 12 wythnos. Mae methu’r Chwe Gwlad a gemau allweddol i’r Gleision yn anodd derbyn”

“Roeddwn ni am edrych ar y posibiliad o apelio oherwydd fy mod yn awyddus i chwarae i’r Gleision a Chymru. Rwy’n siomedig a rhwystredig gyda’r canlyniad”

“Ond fe fyddaf yn canolbwyntio ar ymarfer yn galed ar gyfer diwedd y Gynghrair Magners gyda’r Gleision ym mis Ebrill a gobeithio gallaf dal fod yn rhan o garfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd.”