Mae ymchwil newydd yn nodi bod myfyrwyr yn gweithio oriau hirach mewn swyddi rhan amser i ariannu eu graddau.
Ar gyfartaledd, roedd myfyrwyr yn gweithio 15 awr yr wythnos yn ystod y tymhorau academaidd yn 2010 yn ôl ymchwil gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr ac Endsleigh. Mae hyn yn gynnydd ar y 13 awr o waith yn 2008.
Mae’r mwyafrif o fyfyrwyr yn gwneud swyddi di-grefft megis gwaith mewn bariau neu siopau.
Mae dwy ran o dair o fyfyrwyr yn gweithio yn ystod eu hamser mewn prifysgol.
Mae un mewn deg yn gweithio yn ystod y tymhorau academaidd yn unig, gyda thros draean o fyfyrwyr yn gweithio yn ystod y gwyliau. Mae mwy na hanner myfyrwyr yn gweithio yn ystod y tymor academaidd a’r gwyliau.
Mae llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, Aaron Porter wedi dweud bod disgwyl i’r ffigurau yma gynyddu ymhellach dros y blynyddoedd nesaf.
“Fe fydd y ffigurau’n mynd yn uwch oherwydd y cynnydd mewn ffioedd dysgu a chostau byw myfyrwyr”
“Er gwaethaf yr hyblygrwydd sydd gan fyfyrwyr i weithio ac astudio, mae’n bwysig nad ydynt yn gadael i waith effeithio ar eu graddau.”