Mae Ryan Giggs wedi awgrymu y gallai dychwelyd i chwarae i Gymru unwaith eto.

Roedd chwaraewr Man Utd wedi ymddeol o’r lefel rhyngwladol yn 2007, ond mae penodiad Gary Speed yn hyfforddwr newydd Cymru wedi arwain at sïon y gallai Giggs dychwelyd i Gymru.

Pan gafodd Ryan Giggs ei holi gan Sky Sports ar y pwnc o ddychwelyd i’r lefel rhyngwladol, fe ddywedodd y Cymro:

“Ar hyn o bryd rwy’n canolbwyntio ar chwarae i Man Utd. Ond rwyf wedi chwarae gyda Gary Speed – roedd yn chwaraewr gwych ac rwy’n siŵr y bydd yn gwneud job dda i Gymru,” meddai Ryan Giggs.

“Ni fyddai ‘na unrhyw broblem pe bai angen cymorth arno yn y dyfodol”

“Ond ar hyn o bryd rwyf am ddymuno’n dda iddo a gobeithio y bydd yn gallu cael Cymru i ennill eto.”

Mae Ryan Giggs yn 37 oed ond mae’n dal i berfformio ar y lefel uchaf gyda Man Utd, ac fe fyddai ei bresenoldeb yn naill ai garfan Cymru neu’n rhan o’r tîm hyfforddi yn hwb mawr i Gary Speed.

Fe ddywedodd Giggs ei fod yn mwynhau chwarae gymaint ag erioed a does dim sôn bod y Cymro’n mynd i ymddeol eto.