Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi bod 112 o bobl wedi marw o ffliw yn y Deyrnas Unedig ers mis Medi.
Mae’r ffigurau wedi mwy na dyblu o gymharu â’r 50 achos a gafodd ei nodi’r wythnos diwethaf ac mae’r cyfanswm yn cynnwys chwech o blant o dan bump oed, naw rhwng 5 ac 14 oed a 70 rhwng 15 a 64 oed.
O’r 81 o’r achosion y mae gwybodaeth ddigonol ar gael arnyn nhw, roedd 63 yn cael eu cofnodi fel rhai mewn grwpiau mewn peryg o’r ffliw.
Ar y llaw arall, mae nifer o bobl sydd mewn cyflwr difrifol yn Lloegr wedi disgyn o 783 i 661 dros yr wythnos ddiwethaf.
Fe ddaw’r ffigurau yma wrth i Gemma Ameen, mam i ferch tair oed a fu farw o’r ffliw alw ar y llywodraeth i ailfeddwl eu polisi brechu.
Bu farw Lana Ameen ar Ŵyl San Steffan – dau ddiwrnod ar ôl dechrau dioddef annwyd ar Noswyl Nadolig.
Mae Gemma Ameen ynghyd a’i gŵr Zana wedi rhyddhau llun o’u merch mewn uned gofal dwys er mwyn ceisio cael y llywodraeth i newid eu meddwl dros bwy sy’n derbyn y brechiad.
Ond mae’r Adran Iechyd wedi mynnu bod cyngor arbenigol annibynnol yn glir na ddylai plant heb unrhyw ffactorau risg o’r ffliw cael eu brechu.
Mae fferyllfa Boots wedi dweud mai stociau “cyfyngedig iawn” o frechiadau’r ffliw sydd ganddyn nhw – ac nad oedd yna obaith ailgyflenwi.