Mae Tesco’n beio’r tywydd gaeafol am atal y cwmni rhag sicrhau mwy o dwf yn eu gwerthiant dros yr wythnosau’n arwain at y Nadolig.
Er bod eu ffigurau am y chwe wythnos tan 8 Ionawr yn dangos twf bychan o 0.6% o gymharu â’r un cyfnod y llynedd, mae archfarchnadoedd eraill wedi gwneud yn well.
Fe ddywedodd Tesco fod yr eira ac amodau rhewllyd wedi effeithio ar adrannau heblaw adrannau bwydydd oherwydd bod cwsmeriaid wedi cael trafferthion teithio i’w harchfarchnadoedd mwyaf.
Mae eu ffigurau’n dilyn canlyniadau cryfach Sainsbury’s gyda thwf o 3.6% dros gyfnod hirach o 14 wythnos tan 8 Ionawr. Roedd Morrisonns wedi gweld cynnydd o 1% hyd 2 Ionawr.
Fe ddywedodd cyfarwyddwr cyllidol Tesco, Laurie McIlwee bod yr eira wedi lleihau cynnydd y cwmni o tua 1%.
Mae cyfranddaliadau Tesco wedi disgyn 2% ers cyhoeddiad eu ffigurau diweddaraf.