Mae o leiaf pedwar o bobl eraill wedi’u lladd dros nos yn Tunisia ar ôl i’r heddlu danio ar bobl ifanc a oedd yn protestio yn erbyn ddiweithdra.

Daw’r marwolaethau diweddaraf ger y brifddinas, Tunis a Bizerte i’r Gogledd – wrth i brotestwyr herio hwyrgloch wedi’i osod gan y Llywodraeth. Mae’r wlad yn ceisio tawelu dros dair wythnos o drais ar draws y wlad.

Yn ôl y Llywodraeth, mae 23 o bobl wedi marw yn y trais. Mae gwrthwynebwyr yn dweud fod dwbl y nifer hwn wedi marw ar ôl i’r Heddlu saethu protestwyr.

Mae protestwyr yn herio Zine El Abidine Ben Ali yr Arlywydd sydd wedi bod mewn grym ers 23 o flynyddoedd.

Mae’r protestiadau wedi chwalu delwedd Tunisia fel hafan o dawelwch yng Ngogledd Africa.

Llun: Map o wefan Wikipedia yn dangos lleoliad Tunisia