Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn ymchwilio i gŵyn arall am benodiadau ym mhrifysgol Bangor.
Mae Golwg yn deall mai gŵr di-Gymraeg sydd wedi ei benodi yn Brif Weithredwr ar y ganolfan gelfyddydau newydd Pontio ym Mangor.
Roedd Bwrdd yr Iaith Gymraeg eisoes yn ymchwilio i sut yr aeth Prifysgol Bangor ati i benodi prif swyddogion Pontio, gan fod y rhan fwyaf ohonyn nhw heb fod yn gallu siarad Cymraeg.
Mae Golwg yn deall fod Pwyllgor Dwyieithrwydd Prifysgol Bangor, wedi cwyno’n fewnol am y sefyllfa wrth Gyngor y Brifysgol.
Roedd y Pwyllgor yn anhapus fod y swyddi rheoli Pontio wedi eu hysbysebu heb sôn am unrhyw angen i fedru siarad y Gymraeg.
Nawdd Llywodraeth y Cynulliad
Mae’r prosiect Pontio wedi derbyn £15 miliwn o nawdd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar adeg pan mae hwnnw wedi lansio dogfen ‘Iaith byw: Iaith Fyw’ sy’n son am yr angen i fwy o sefydliadau weithredu’n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Un o’r sefydliadau y mae’n cymryd ei le yw Theatr Gwynedd, sydd bellach wedi ei ddymchwel, a oedd yn cael ei weinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ond mae pryder mai Saesneg fydd iaith fewnol Canolfan Pontio, gydag un swyddog yn gyfrifol am chwarae teg i’r Gymraeg.
Er i Golwg ofyn am enw Prif Weithredwr Pontio, a manylion gweddill y staff sydd wedi eu penodi hyd yma, ni chafwyd unrhyw wybodaeth gan Brifysgol Bangor.
Rhagor am y stori yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos yma