Mae gweithwyr iechyd yn Sri Lanka yn brwydro i atal heintiau rhag ymledu wrth i lifogydd a thirlithradau sydd wedi lladd 23 o bobl fygwth mwy o fywydau yn y wlad.
Mae awdurdodau’r wlad yn gofyn i ferched beichiog a phlant bach sy’n byw mewn taleithiau lle mae carthffosiaeth wedi ymledu i’r strydoedd fynd i’r ysbyty – i’w hamddiffyn ei hunain yn erbyn heintiau, meddai swyddog iechyd heddiw.
Mae diwrnodau o lifogydd trwm wedi achosi tirlithriadau yn nhaleithiau dwyreiniol yr ynys.
Mae pump ychwanegol wedi marw heddiw gan ddod a’r gyfradd marwolaeth i 23, meddai’r Ganolfan Drychinebau cenedlaethol.
Mae un person ar goll a 36 wedi’u hanafu.
Llun: Map yn dangos lleoliad Sri Lanka oddi ar ochr arfordir dwyreiniol India (o wefan Wikipedia)