Mae capten Derby, Robbie Savage wedi datgelu y gallai adael y clwb cyn ddiwedd y tymor i ymuno a’r Vancouver Whitecaps sy’n chwarae yn y Major League Soccer.
Fe fydd cytundeb presennol y Cymro’n dod i ben dros yr haf ac mae’r chwaraewr canol cae yn ystyried y cynnig i symud i Ganada mor gynnar â mis Mawrth.
Mae Savage, sydd hefyd yn gweithio ar raglenni pêl droed Radio Five Live ac ESPN, wedi dweud bod swyddogion y Vancouver Whitecaps wedi gwerthu’r clwb yn effeithiol iawn iddo.
“Maen nhw’n dîm newydd i’r MLS, maen nhw’n symud i stadiwm £300m newydd ac maen nhw’n uchelgeisiol hefyd,” meddai Savage.
Mae Robie Savage hefyd yn credu ei fod yn gyfle da iddo helpu sicrhau bod pêl droed yn dod yn fwy poblogaidd yn y rhan yma o’r byd.
Fe ddywedodd y Cymro ei fod yn gwbl ymroddedig i Derby ond bod y Vancouver Whitecaps yn awyddus iddo ymuno mewn pryd i ddechrau’r tymor newydd yn America ym mis Mawrth.
“Mae gan Derby benderfyniad mawr i’w wneud. Os byddan nhw’n rhoi’r hawl i mi adael yn gynnar, gen i y bydd y penderfyniad mawr i’w wneud.
“Mae i fyny i Derby nawr a dibynnu beth maen nhw’n dweud , fe fyddai wedyn yn siarad gyda fy nheulu a’r BBC ac ESPN.”
Llun: Robbie Savage (TuborgLight CCA3.0)