Mae’r ffrae rhwng Llywodraeth y Cynulliad a Llywodraeth Prydain ar fater rhoi organau wedi dwysáu heddiw ar ôl sylwadau camarweiniol gan Ysgrifennydd Cymru ar y radio’r bore yma.
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn benderfynol o newid y ddeddf fel bod rhagdybiaeth o ganiatâd i roi organ ar ôl marw yn hytrach na bod angen cofrestru caniatâd fel sy’n digwydd ar hyn o bryd. Ond mae Twrnai Cyffredinol Llywodraeth Prydain yn dweud bod “pryderon sylfaenol” am gael system ar wahân i Gymru.
Pan ofynnwyd i Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, gyfiawnhau ymyrraeth y Twrnai Cyffredinol ar Radio Wales y bore yma, fe wadodd iddi gyflwyno cynnig tebyg fel Mesur Aelod Preifat ar roi organau yn 2002.
Mae’r cofnodion y senedd, fodd bynnag, yn profi’n wahanol.
“Fe wydden ni fod Cheryl Gillan allan o gysylltiad â Chymru – mae hi bellach allan o gysylltiad â realiti,” meddai Owen Smith, Aelod Seneddol Llafur Pontypridd a Gweinidog yr Wrthblaid dros Swyddfa Cymru.
“Mae hi’n anodd cael ffydd bod gan y Gweinidog ddealltwriaeth lawn o’r pwnc sensitif yma, drwy nad yw’n ymddangos ei bod hi’n gwybod ei record ei hun ar y pwnc. Y peth lleiaf y gallen ni ddisgwyl oedd iddi ddangos dealltwriaeth addas o’r pwnc, a dealltwriaeth addas o’r chred ei hun yn y cyfeiriad yma.
“Ar bwynt mor allweddol yn nadl y refferendwm, mae Swyddfa Cymru o dan y Torïaid wedi rhoi rheswm clir iawn dros i bobl bleidleisio ‘Ie’ ar Fawrth y trydydd.”
Llun: Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan