Mae lefelau dŵr y llifogydd yn Brisbane wedi dechrau gostwng wrth i’r awdurdodau rybuddio y gallai gymryd dyddiau cyn y bydd pobl yn gallu dychwelyd i’w cartrefi.

Mae tua 30,000 o gartrefi a busnesau’n dal o dan ddŵr yn Brisbane, ac mewn rhai achosion fe fydd yn amhosib byw mewn rhai o’r cartrefi.

Mae llifogydd ar draws Queensland wedi suddo dwsinau o drefi a gadael ardal cymaint â Ffrainc a’r Almaen gyda’i gilydd dan ddŵr.

Mae Prif Weinidog talaith Queensland, Anna Bligh, wedi dweud bod un dyn wedi marw yn Brisbane ar ôl cael ei sugno mewn i draen gan ddŵr y llifogydd.

Mae’r farwolaeth ddiweddaraf yn dod â chyfanswm marwolaethau ers i’r llifogydd ddechrau yn hwyr ym mis Tachwedd llynedd i 25. Mae 61 person yn parhau i fod ar goll gyda disgwyl i’r nifer o farwolaethau godi.

“Mae Queensland yn wynebu’r trychineb naturiol gwaethaf yn ein hanes ac o bosib hanes ein cenedl,” meddai Anna Bligh.

“Mae tri chwarter y dalaith wedi cael y profiad o’r llifogydd ac ry’n ni’n wynebu tasg o ail-adeiladu tebyg i’r hyn fyddai ar ôl rhyfel.”

Mae tua 103,000 o gartrefi heb drydan ar draws Queensland ar hyn o bryd ar ôl i’r pŵer gael ei droi i ffwrdd i osgoi bod pobl yn cael eu hanafu.

Roedd amcangyfrifon costau adfer yr ardaloedd sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd wedi cyrraedd £3.1bn cyn i Brisbane suddo dan y dŵr.