Mae’r corff sy’n gofalu am fuddiannau nyrsys wedi gwrthod cynnig Llywodraeth San Steffan i dorri lawr ar gyflogau ei aelodau.

Mae Coleg Nyrsio Brenhinol, sy’n cynrychioli tua 400,000 o nyrsys wedi beirniadu’r cynnig i atal unrhyw godiad mewn cyflog blynyddol am ddwy flynedd er mwyn osgoi diswyddiadau gorfodol.

Fe ddywedodd ysgrifennydd cyffredinol Coleg Nyrsio Brenhinol, Peter Carter wedi bod y cynigion yn “ymosodiad di-gyfiawnhad” ar nyrsys.

“Dydi gofyn i staff i roi’r gorau i gynnydd cyflog er mwyn sicrhau bod rhai yn osgoi diswyddiadau gorfodol ddim yn iawn,” meddai Peter Carter.

“Ry’n ni hefyd yn amheus bydd y cyflogwyr yn gallu sicrhau eu haddewidion am sicrwydd swyddi”

“Mae’r nyrsys yn teimlo eu bod nhw’n cael eu cosbi am broblemau economaidd nad oes a wnelo ddim â nhw.”

Mae ychydig dros filiwn o staff yn Lloegr sy’n ennill hyd at £34,189 wedi cael eu gofyn i beidio derbyn codiadau blynyddol.

Roedd Llywodraeth San Steffan yn disgwyl i’r cyfyngiadau pellach ar gyflogau staff meddygol i arbed £1.9bn dros ddwy flynedd.