Mae dros 300 o bobl wedi marw ar ôl llifogydd trwm a thirlithradau yn Brasil.
Mae achubwyr bywyd yn chwilio am ddwsinau o bobl yn nhref Teresopolis – lle mae’r asiantaeth amddiffyn sifil yn dweud fod 146 o bobl wedi marw a channoedd o bobl yn ceisio adnabod cyrff.
Mae cyrff y meirw wedi’u gosod ar y strydoedd gan yr Heddlu ac wedi’u gorchuddio â blancedi.
Fe wnaeth y llifogydd daro’r dref dros nos – ond does dim tirlithradau wedi digwydd ers hynny. Mae achubwyr bywyd wedi defnyddio peiriannau trwm a’u dwylo yn eu hymdrech i achub pobl.
Mae llifogydd trwm a thirlithradau yn lladd cannoedd ym Mrasil bob blwyddyn – yn arbennig yn ystod haf De America. Y rhai sy’n cael eu heffeithio waethaf yw’r tlawd sydd â thai wedi’u hadeiladu ar lethrau gyda sylfaeni gwan.
Yn Sao Paulo, mae llifogydd wedi bod yn creu problemau ers dydd Sul ac mae 21 o bobl wedi marw a’u cartrefi wedi dinistrio.
Llun: map o Brasil o wefan Wikipedia