Mae dyn yn cael ei holi gan yr heddlu yn Llundain ar ôl torri mewn i siop ar Stryd Regent a bygwth achosi ffrwydrad.
Fe gafodd y dyn 46 oed ei arestio ar ôl gwarchae a barhaodd am bedair awr mewn siop Accessorize.
Fe gafodd yr heddlu ei galw i’r siop ychydig wedi 12.00am ar ôl i larwm cael ei sbarduno.
Roedd y dyn wedi cau ei hun yn y siop gan honni fod ganddo ffrwydradau yn ei feddiant.
Fe gafodd rhan o’r ardal brysur yma ynghanol Llundain ei chlirio wrth i’r heddlu geisio trafod gyda’r dyn.
“Yn dilyn trafodaethau, fe ymadawodd y dyn yr adeilad am 5.15am ac fe gafodd ei arestio,” meddai’r Heddlu Metropolitan.
“Mae’r dyn 46 oed yn y ddalfa mewn gorsaf heddlu yng nghanol Llundain ar hyn o bryd.”
Mae’r ymchwiliad gan yr heddlu i’r digwyddiad yn parhau.
Llun: Stryd Regent yng nghanol Llundain (hawlfraint Stad y Goron)