Mae diffoddwr tân rhan amser o Gaernarfon a ddringodd y Wyddfa unwaith yr wythnos am flwyddyn gyfan y llynedd wedi casglu dros £15,000 o bunnoedd at elusen Canser y Fron.
Er mai casglu £1,000 o bunnoedd oedd bwriad gwreiddiol Andrew Craig o Gaernarfon – fe lwyddodd i gasglu £15,304.60 drwy ei ymgyrch yn dringo’r Wyddfa 52 o weithiau i gyd.
“Dw i isio diolch i bawb sydd wedi rhoi arian at yr achos” meddai Andrew Craig wrth Golwg360 cyn disgrifio’r flwyddyn fel un “emosiynol” a blwyddyn lawn “ysbrydoliaeth”.
Mae hefyd wedi datgan ei fod yn edrych ymlaen am ei sialens elusenol y flwyddyn hon.
Eleni, bydd Andrew Craig sy’n ddiffoddwr tân rhan-amser ac yn rheolwr siop adeiladu Travis Perkins yng Nghaernarfon yn gwneud sialens wahanol bob mis cyn cymryd rhan yng nghamp fawr y tri chopa Prydeinig fis Rhagfyr nesaf.
Sialensiau’n cynnwys ‘dysgu nofio’
Ymhlith y sialensiau y mae wedi’i osod iddo’i hun eleni mae dringo rhew, ceunentydd, parasiwtio, beicio, nofio, cymryd rhan yn sialens tri chopa Cymru, canŵio, rhedeg marathon, cerdded yr Inca Trail a chymryd rhan yng nghystadleuaeth tri chopa Prydain.
Fis Mai nesaf, fe fydd yn gwneud triathalon yn Llanberis – all gynnwys nofio am 750m, beicio 51km a rhedeg11km drwy chwareli Dinorwig a pharc Padarn.
“Fedra i ddim nofio eto – felly bydd rhaid i mi ddysgu.
“Dw i’n trio chwilio am rywun sy’n fodlon fy nysgu. Bydd rhaid i mi godi’n lefelau ffitrwydd â nofio,” meddai cyn dweud y bydd yr arian y mae’n casglu at ei sialens eleni yn mynd at ganser y Fron a Chanser prostad.
‘Unwaith y mis’
Er bod sialens fawr ganddo unwaith bob mis – ac eithrio mis Tachwedd pan fydd yn gweithio tuag at sialens y tri chopa – nid yw’n poeni’n ormodol am yr her bersonol, meddai.
“Unwaith y mis mae’r sialensiau. Ond o’i gymharu â beth mae pobl sydd â chanser yn mynd trwyddo – dydi o ddim byd. Ond, bydd rhaid i mi ymarfer,” meddai.
“Dw i’n mwynhau ymarfer – heb rywbeth fel hyn – mae’n bosibl na fyddwn i’n gwneud dim byd….Dw i’n gobeithio cael sialens fel hyn bob blwyddyn.”
Llun: Yr Wyddfa o Lyn Llydaw (Huw Prys Jones)